Home arrow Draig y Don
Home
Draig y Don
Background
Technology
Project
Environmental Statement
Downloads
Contact
Links
News
Draig y Don Print E-mail
Image

Mae Wave Dragon Wales Cyf yn cynnig adeiladu, gosod, gweithredu a dadgomisiynu dyfais arddangos cynfasnachol trawsnewid ynni tonnau oddi ar Arfordir Sir Benfro yh 2008.   Mae’r prosiect arddangos yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan fenter Amcan 1. Y bwriad yw profi’r ddyfais am hyd at 5 mlynedd, ac ar hynny ei symud o’r safle a dadgomisiynu’r safle.           

Bu Cwmni Wave Dragon yn gweithio tuag at fasnacheiddio’r ddyfais ers sawl blynedd, ac mae wedi lleoli prototeip yn Nenmarc ers 2003 lle arddangoswyd eisoes gynhyrchiant pŵer dibynadwy.

Amcan cyntaf y prosiect yw profi dichonolrwydd gosod y ddyfais a’i chysylltu â grid ar raddfa fasnachol, gyda’r bwriad o gynnal profion a gwirio perfformiad am hyd at 5 mlynedd. Ar ôl y cyfnod 5 mlynedd hwn ac ar ôl ei phrofi, y bwriad fyddai masnacheiddio datblygiad dyfeisiau lluosog i’w lleoli ymhellach o’r lan yn rhan o Fferm Donnau neu gasgliad. Byddai’r ail gam hwn yn destun proses ganiatáu ar wahân.  Ail amcan y prosiect yw cynhyrchu trydan glân o ffynhonnell ynni adnewyddadwy, h.y. pŵer tonnau.

Mae Dyfais Arddangos Cynfasnachol Wave Dragon yn drawsnewidydd ynni tonnau wedi’i angori ar slac arnawf a bernir bod ganddo’r gallu i gynhyrchu 7MW.  Caiff ei hangori (fel llong) mewn dŵr cymharol ddwfn, h.y. mwy na 25 m i fanteisio ar donnau’r cefnfor cyn iddynt golli egni wrth iddynt gyrraedd ardal yr arfordir. Mae hyn i’r gwrthwyneb i lawer o drawsnewidyddion ynni tonnau y gwyddys amdanynt sydd naill ai’n cael eu hadeiladu i mewn i’r draethlin neu eu gosod ar wely’r môr mewn dŵr bas.

Mae dyfais Wave Dragon yn galluogi tonnau cefnfor i fynd yn uwch na ramp, sy’n codi dŵr i gronfa ddŵr uwchlaw lefel y môr. Mae hyn yn creu ‘pen’ artiffisial o ddŵr, a ryddheir wedyn drwy nifer o dyrbinau ac a drawsffurfir fel hyn yn drydan. Dychwelir dŵr i’r môr drwy diwbiau drafft yng ngwaelod yr uned, sy’n dal y tyrbinau.   Codir dŵr i’r gronfa ddŵr lle caiff ei gadw dros dro cyn syrthio i’r siambrau tyrbin gan drawsnewid ynni tonnau mecanyddol felly yn allbwn trydanol yn uniongyrchol. Yr unig rannau o’r ddyfais sy’n symud yw’r tyrbinau eu hunain.  

Mae’r uned yn cynnwys llwyfan canolog, gyda ramp crwm a chronfa ddŵr fawr â chasgliad o hydro-dyrbinau, a dwy asgell grom ochrol sy’n taflu tonnau yn ôl ac yn dwysáu pŵer y tonnau sy’n dod i mewn. Y tyrbinau a ddefnyddir yn y ddyfais yw tyrbinau echelinol pen isel sy’n deillio o dyrbin hydro-electrig Kaplan confensiynol.                               

Cynlluniwyd dyfais Wave Dragon i barhau mewn ardal symud ddiffiniedig, ac i echdynnu ynni’r tonnau sy’n mynd drosti. Er y bydd y ddyfais ei hun yn symud gyda chyfeiriad y tonnau a cheryntau llanw wrth iddynt newid, bydd wedi’i gosod wrth fwi blaen a fydd yn parhau’n sefydlog i bob pwrpas.

Mae Wave Dragon Wales Cyf wedi gwneud cais am:

  • Caniatâd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant o dan Adran 36 Deddf Trydan 1989
  • Trwydded gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru o dan Adran 5 Deddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985;
  • Trwydded gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o dan Adran 34 o Deddf Amddiffyn y Glannau 1949;

Mae copi o’r cais (ynglyd ã Chrynodeb Annechnegol Cymraeg) ar gael I’w harwilio yn ystod oria gwaith arferol yn y lleoliadau canlynol:

  • Swyddfeudd Awrdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Doc Penfro
  • Llyfrgell Hwlffordd
  • Llyfrgell Aberdaugleddau
  • Sutherland House, Doc Penfro.

Am mwy o wybodaith am y project edrychwych ar dudalennau Saesneg y safle.  Am y technoleg yn cyfredinol edrychwych ar www.wavedragon.net.

Pe bai angen copi called o’r Datganiad Amgylcheddol, neu am unrhwy cwestiwn, ofynwych at:

Iain Russell,

Y Rheolwr, Wave Dragon Wales Cyf,

Gwern-Y-Fran,

Maerdy,

Corwen,

Sir Ddimbych

LL21 9PB